Mae lles pobl ifanc yn tu hwnt o bwysig, a dyna pam rhoddir pwyslais ar ‘hwyl’ drwy’r arbrofion syml. Mae’r sesiynau ar-lein yn galluogi Sbarduno i barhau i weithio gyda’r bobl ifanc, eu hysbrydoli a chodi ymwybyddiaeth o’r byd Gwyddonol. Dangosir pa mor hwyliog gall Gwyddoniaeth fod, pa bynnag oed yw’r disgybl.
Mae’r gweithdai sydd ar gyfer neu gyda phartneriaid wedi’u cynllunio i ymateb i’w hanghenion busnes. Fe’i haddasir i gyd-fynd ag oedran a gallu’r gynulleidfa.
Mae’r arlwy a ddarperir ar gyfer partneriaid yn amrywiol, boed yn gyflwyniadau cychwyn busnes, gweithdai Gwyddonol, clipiau fideo neu’n sesiynau mentorau. Maent oll o fewn diddordeb Sbarduno ac yn ymateb i brif ffocws y cwmni, sef ysbrydoli, rhannu gwybodaeth Gwyddonol a diwydiannol, a datblygu sgiliau allweddol.