Amdanom Ni
Play Video

Awen
Ashworth

Perchennog

Mae Awen yn gyn-athrawes Gwyddoniaeth, a bu’n dysgu Cemeg am bron i 10 mlynedd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Brynrefail, Caernarfon. Cyn hynny roedd yn gweithio fel gwyddonydd mewn diwydiant.

Pan oedd ei hefeilliaid yn 2 oed, penderfynodd gymryd cam yn ôl o ddysgu, ac fe aeth i weithio fel contractwr i Gwmni Pŵer Horizon ar Ynys Môn. Yma gweithiodd fel swyddog addysg er mwyn codi ymwybyddiaeth plant am eu hôl troed carbon. Mae hi hefyd yn llysgennad STEM.

Sefydlu Sbarduno

Daeth ei swydd i ben gyda Chwmni Pŵer Horizon ym mis Mawrth 2019, ac yn ystod ei chyfnod yn y swydd roedd wedi gweithio gyda dros 3000 o ddisgyblion, ac wedi cwrdd â llawer o athrawon. Gwelodd yn ystod y cyfnod hwn bod diffyg arbrofion Gwyddonol mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd gyda phlant ifanc. Mae hynny’n digwydd yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau ac arbenigedd pwnc am fod gofyn ar ddarparwyr ac athrawon i addysgu sawl pwnc a maes.

Mae’r arbrofion a’r gwaith mae Awen yn ei wneud yn dangos y cyswllt gwyddonol sydd efo popeth o’n cwmpas yn ystod ein bywydau, bob dydd. Drwy’r profiadau mae hi’n eu cynnig, gall plant weld a phrofi yn ymarferol pa mor ddiddorol a pherthnasol ydi Gwyddoniaeth. Y gobaith mwyaf sydd gan Awen yw ysbrydoli plant i ennyn diddordeb yn y maes o oed ifanc.

Teimla Awen ei bod yn hollbwysig ysbrydoli plant, ac wrth wneud y gwaith a’r arbrofion hyn, mae sgiliau eraill pwysig yn cael eu datblygu, fel datrys problemau, gweithio fel tîm, gweithio’n unigol a datblygu sgiliau motor.

Mae prinder merched yn y maes Gwyddoniaeth, ac yn hytrach na gweld hyn fel rhwystr, mae'n rhannol gyfrifol am ysbrydoli ei diddordeb yn y maes. Mae’n faes cyffrous ac mae Awen wedi cydweithio â merched gwych yn y diwydiant ac sy’n addysgu’r pwnc mewn ysgolion.

Caiff y gorau o’r ddau fyd – y diwydiant a’r dysgu - ac mae’n gweithio’n dda o gwmpas gofynion ac anghenion ei theulu prysur!

Dathlu Llwyddiant

Y llynedd, derbyniodd Awen ddau wobr yn Noson Wobrwyo Llais Cymru, sef Busnes Mam a Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg.

Bu Awen yn fuddugol eto eleni yn y Noson Wobrwyo, lle enillodd y wobr Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg am yr ail flwyddyn yn olynol.

Roedd yn ddigwyddiad rhithiol eto eleni ar draws Cymru, yn dathlu llwyddiannau merched mewn byd busnes a busnesau Cymreig.

Cwrdd â gweddill y tîm

Alaw

Tiwtor Academi Uwchradd

Yn fam i deulu ifanc o dri o blant, graddiodd o Brifysgol Bangor yn 2005 gyda Gradd BSc Anrhydedd mewn Seicoleg. Mae'n dysgu Mathemateg yn Ysgol Brynrefail, Llanrug ers 2007. Mae’n gyfrifol am farcio papurau TGAU Mathemateg i Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru ers sawl blwyddyn.

Eleni, mae wedi’i phenodi’n Gynorthwy-ydd yr adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Ei chyfrifoldeb fel rhan o’r tîm yn yr ysgol yw i gefnogi, tracio a mentora’r disgyblion sydd ar y rhaglen.

Mae'n gobeithio parhau i ddilyn gyrfa gyda’r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad, drwy barhau i ddysgu Mathemateg ar bob lefel yn yr ysgol. Mae’n mwynhau’r cyfle i ysbrydoli disgyblion i fwynhau Mathemateg gan ddangos y cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael gyda’r pwnc, gan ei fod yn allweddol i pob gyrfa.

Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau cerdded, heicio, campio, darllen a chael mynd allan am bryd o fwyd arbennig o dro i dro.

Claire

Cydlynydd Marchnata ac Ymgysylltu

Gyda chefndir mewn addysg gynradd, cyswllt addysg busnes ac wedyn gweithio o fewn y diwydiant Niwclear, mae gan Claire ystod eang iawn o brofiadau a chysylltiadau sydd o gymorth i Sbarduno wrth ymestyn ac enhangu'r ddarpariaeth.

Yn fam i ddwy o enethod ifanc, mae’n mwynhau’r cyfle i gynorthwyo, marchnata, hyrwyddo ac ymgysylltu â phartneriaid, yn ogystal â bod yn fam llawn amser. 


Dros y blynyddoedd mae Claire wedi gweld y pwysigrwydd o roi cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau STEM a sgiliau allweddol, sy’n eu paratoi ar gyfer byd gwaith. Mae'n falch o fod wedi cynorthwyo ac ysbrydoli pobl ifanc dros y blynyddoedd i adnabod eu cryfderau ac i berthnasu eu sgiliau i'w gyrfaoedd delfrydol.


Mae’n falch iawn o fod yn rhan o dîm Sbarduno i hyrwyddo a meithrin y sgiliau hyn gyda’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc a fydd yn mentro allan i’r byd gwaith.

Eifion

Tiwtor Academi Cynradd ac Uwchradd

Gadawodd Ysgol Brynrefail, Llanrug i ddilyn gyrfa fel pêl-droediwr proffesiynol gyda Lerpwl a Blackpool cyn cael ei ryddhau a symud ymlaen i ddilyn cwrs gradd B.Addysg mewn Prifysgol. Ar ôl graddio, bu'n gweithio fel athro Cynradd yn Ysgol Rhiwlas, ger Bangor, cyn symud ymlaen i weithio mewn ysgolion ym Môn. Bu'n bennaeth Cyfnod Allweddol 2 a Chyd-lynydd Rhifedd yn Ysgol y Parc. Bu’n Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Glanadda a Choedmawr ym Mangor.

Erbyn hyn mae’n athro Mathemateg a Chynhwysiad yn Ysgol Tryfan, Bangor, sef ysgol Uwchradd. Ei weledigaeth yw y dylid addysgu Mathemateg a Rhifedd mewn ffordd cyffrous, ble mae’r dysgwr yn teimlo’n hapus mewn awyrgylch dosbarth croesawgar.

Mae’n ymdrechu i sicrhau fod ei weledigaeth yn cael ei wireddu yn ystod sesiynau Sbarduno, a bod y plant sy’n mynychu yn elwa wrth ddatblygu hyder yn y maes, yn mwynhau ac yn dysgu o fod yno.

Ffion

Swyddog Sbarduno

Derbyniodd Ffion ei haddysg yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, lle astudiodd Bioleg a Chemeg fel pynciau Lefel A. Aeth ymlaen i astudio gradd mewn Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Bellach mae’n cwblhau cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mangor gyda’i bryd ar fynd yn athrawes Gemeg.

Dros yr haf bu’n aelod gwerthfawr o dîm Sbarduno, drwy gyflwyno a rhedeg gweithdai ac arbrofion amrywiol ar draws Gwynedd a Môn. Mae wedi derbyn swydd dros dro gyda Phrifysgol Bangor i gynnal sesiynau arbrofi yn y Babell Wyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Credai Ffion ei bod yn bwysig ysbrydoli plant a phobl ifanc drwy Wyddoniaeth, gan nad oes llawer yn derbyn y cyfleoedd hyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’n hynod o falch cael bod yn aelod o dîm Sbarduno, oherwydd caiff y cyfle i rannu ei hangerdd tuag at Gwyddoniaeth gyda nifer o blant a phobl ifanc.

Haf

Swyddog Sbarduno

Ar ddiwedd Mai 2022, daeth addysg Haf yn Ysgol Brynrefail i ben ar ôl iddi orffen ei harholiadau Lefel A mewn Bioleg, Seicoleg ac Astudiaethau Crefyddol. Mae Haf wedi gweithio a gwirfoddoli yn y gorffennol gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu ar draws sawl sefydliad. Ers hynny mae Haf wedi wedi troi i astudio seicoleg dysgu.

Flwyddyn nesaf, mae Haf yn dymuno datblygu ei gwybodaeth o Seicoleg drwy fynychu’r Brifysgol er mwyn cwblhau gradd mewn Seicoleg gyda Niwrowyddoniaeth. Yn y dyfodol mae'n gobeithio gweithio gyda Seicolegwyr ynghyd â thechnoleg uwch er mwyn ymchwilio i'r ffactorau biolegol sy'n effeithio ar ein hymddygiad.

Mae Haf yn credu ei bod yn bwysig ysbrydoli unigolion ifanc y tu allan i’r ystafell ddosbarth traddodiadol, mae hefyd yn arwyddocaol iawn bod plant yn gweld gwyddoniaeth fel rhywbeth difyr a rhyngweithiol. Trwy wneud hynny bydd yn datblygu eu cymhelliant cynhenid ​​​​a fydd fwy buddiol trwy eu bywydau academaidd.

Enlli

Swyddog Sbarduno

Treuliodd Enlli bedair blynedd yn astudio am radd meistr integredig ym Mhrifysgol Bangor, a graddiodd yn ddiweddar gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwyddor yr Amgylchedd (MEnvSci).

Arweiniodd diddordeb cynnar Enlli mewn actifiaeth amgylcheddol at ei hymchwil pellach i newid hinsawdd, ynni adnewyddadwy, a llygredd anthropogenig.

Trwy’r profiadau cenedlaethol a rhyngwladol amrywiol, gwelodd y dylanwad posibl y gall pobl ifanc ei gael ar benderfyniadau a pholisi cyhoeddus yn y dyfodol. Mae Enlli’n credu’n gryf y bydd addysgu technegau gwyddonol a sgiliau meddwl yn feirniadol yn ifanc yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiadau mewn diwydiannau allweddol yn y dyfodol.

Bu Enlli yn gwirfoddoli gyda Girl Guiding Cymru am 10 mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n cynnal amrywiaeth o weithdai gwyddonol ar draws Cymru ar gyfer ystod o oedrannau ac yn gobeithio cyflwyno arbrofion newydd ar draws ystod o themâu. Mae’n gobeithio ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn gyrfa mewn STEM ac i amlygu pwysigrwydd sgiliau gwyddonol a'u cymwysiadau i’r byd go iawn.

Tanysgrifiwch am y diweddaraf gan Sbarduno

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.