Polisi Diogelu ac
Ymgysylltiad Digidol

Rhybudd Preifatrwydd i Ysgolion

Mae Sbarduno yn ymwybodol o’i rwymedigaeth o dan Y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) a’r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol, ac wedi ymrwymo i brosesu eich data yn ddiogel ac yn eglur. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn amlinellu, a hynny drwy gydymffurfio â’r ymrwymiadau diogelu data, y math o ddata yr ydym yn ei gadw amdanoch chi. Mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth, am ba mor hir bydd yn cael ei gadw ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall am eich data.

Manylion Rheolwr Data

Y Perchennog yw’r rheolwr data, sy’n golygu y bydd yn penderfynu’r prosesau a ddefnyddir wrth ddefnyddio eich data personol. Dyma’r manylion cyswllt: M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Menai, Gaerwen, Ynys Môn. LL60 6AR

Egwyddorion Diogelu Data

Mewn perthynas â’ch data personol, byddwn yn:
• ei brosesu’n deg, gyfreithiol ac mewn modd clir a thryloyw
• casglu eich data yn unig ar gyfer rhesymau sy’n angenrheidiol i’n ymgysylltiad â chi a hynny wedi’i egluro i chi o flaen llaw
• ei ddefnyddio yn y modd yr ydym wedi’i gytuno â chi
• sicrhau ei fod yn gywir a chyfredol
• ei gadw am ba bynnag hyd amser sydd ei angen ei brosesu mewn modd sy’n gofalu nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn dull nad ydych yn ymwybodol ohono neu nad ydych wedi rhoi eich caniatâd (sy’n briodol), ei golli na’i ddinistrio

Pam prosesu eich data?

Mae’r gyfraith dros ddiogelu data yn rhoi’r hawl i ni brosesu eich data am resymau penodol yn unig:
• i gynnal y cytundeb sydd gennym â chi
• i gynnal dyletswyddau cyfreithiol, angenrheidiol
• i’n galluogi i gwblhau ein buddiant cyfreithlon
• i ddiogelu ein buddiannau
• lle mae rhywbeth yn cael ei wneud er lles y cyhoedd
• lle yr ydym wedi derbyn eich caniatâd.

Mae’r holl prosesu data yr ydym yn ei wneud yn ymateb i un o’r rhesymau caniataëdig. Yn gyffredinol, byddwn yn dibynnu ar y tri rheswm cyntaf a nodir uchod er mwyn prosesu eich data. Er enghraifft, byddwn yn casglu eich data personol er mwyn:
• cwblhau’r cytundeb yr ydym wedi’i greu â chi

Rydym hefyd yn casglu data er mwyn ein galluogi i gynnal ein gweithgareddau sydd o fudd cyfreithlon i’r perchennog. Rydym wedi gosod y pwyntiau isod:
• gwneud penderfyniadau gyda phwy i gael cytundeb
• delio â cheisiadau cyfreithiol yn ein herbyn
• atal twyll

Rhannu eich data

Rhennir eich data gyda gweithwyr o fewn y busnes, pan fo hynny’n angenrheidiol iddynt gwblhau eu dyletswyddau. Er enghraifft, y gweinyddwr pan fydd taliad yn cael ei wneud.

Gallwn rannu eich data â thrydydd parti fel rhan o werthiant y busnes neu ail-strwythuro, neu am resymau eraill er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol.

Nid ydym yn rhannu eich data gydag unrhyw gorff y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Diogelu eich data

Rydym yn ymwybodol o’r gofynion sydd arnom i sicrhau bod eich data wedi’i ddiogelu yn erbyn colled damweiniol neu ddatgeliad, difrod neu gamddefnydd. Mae gennym brosesau mewn lle i sicrhau na fydd hyn yn digwydd.

Pan fyddwn yn rhannu eich data â thrydedd parti, byddwn yn darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig sy’n sicrhau bod eich data yn cael ei gadw’n ddiogel ac o fewn y gofynion diogelu data cyfredol. Mae disgwyl i’r trydydd parti allu cyflawni mesuriadau technegol a chyfundrefnol pwrpasol er mwyn sicrhau diogelwch eich data.

Am ba mor hir y cedwir eich data?

Pan fyddwn yn rhannu eich data â thrydedd parti, byddwn yn darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig sy’n sicrhau bod eich data yn cael ei gadw’n ddiogel ac o fewn y gofynion diogelu data cyfredol. Mae disgwyl i’r trydydd parti allu cyflawni mesuriadau technegol a chyfundrefnol pwrpasol er mwyn sicrhau diogelwch eich data.

Gwneud Penderfyniadau Awtomataidd

Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud amdanoch chi yn seiliedig ar wneud penderfyniad awtomataidd yn unig (lle mae penderfyniad yn cael ei wneud amdanoch drwy ddefnyddio system electroneg heb unrhyw gysylltiad dynol) a fyddai’n cael effaith arwyddocaol arnoch chi.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch data

Yn ôl cyfraith diogelu data, mae gennych rhai hawliau penodol ynglŷn â’r data sydd gennym amdanoch chi. Dyma’r:
hawl i gael eich hysbysu. Golygai hyn bod rhaid i ni adael i chi wybod sut yr ydym yn defnyddio’ch data, a dyma bwrpas y rhybudd preifatrwydd
hawl i gael mynediad. Mae gennych hawl i gael mynediad at y data sydd gennym amdanoch chi. I wneud hyn, dylech wneud cais mynediad
hawl i gywiro unrhyw anghywirdeb. Os yw’r data sydd gennym yn anghyflawn neu’n anghywir, mae gennych yr hawl i ofyn i ni ei gywiro
hawl i ddileu gwybodaeth. Pe byddech yn dymuno i ni beidio â phrosesu eich data, mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu’r wybodaeth o’n systemau, lle rydych o’r farn nad oes pwrpas i barhau i’w brosesu
• hawl i gyfyngu ar brosesu’r data. Er enghraifft, os ydych o’r farn bod y data sydd gennym yn anghywir, byddwn yn rhoi gorau i brosesu’r data (ond yn dal i’w gadw) nes ein bod wedi sicrhau bod y data yn gywir
hawl i hydgludedd. Gallwch drosglwyddo y data sydd gennym amdanoch chi at eich dibenion eich hun
hawl i wrthod cynhwysiad unrhyw wybodaeth. Mae gennych yr hawl i wrthod i’r modd yr ydym yn defnyddio’ch data pan yr ydym yn ei ddefnyddio i’n buddiannau cyfreithlon
hawl i reoleiddio unrhyw benderfyniadau awtomataidd a phroffilio eich data personol. Mae gennych yr hawl i beidio bod yn destun gwneud penderfyniad awtomataidd mewn modd a fyddai’n effeithio eich hawliau cyfreithiol.

Lle yr ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio’ch data, mae gennych hefyd yr hawl anghyfyngedig i dynnu’r caniatâd hwnnw’n ôl unrhyw bryd. Wrth dynnu’n ôl eich caniatâd, byddwn yn peidio â phrosesu y data yr ydych wedi’i roi i ni yn y gorffennol a’r hawl hwnnw i’w ddefnyddio. Ni fydd unrhyw effaith i chi dynnu’n ôl eich caniatâd. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gallwn barhau i ddefnyddio’r data, lle mae wedi’i ganiatau, a chyda rheswm cyfreithlon dros wneud hynny.

Pe byddech yn dymuno defnyddio un o’r hawliau a restrir uchod, a fyddech cystal â chysylltu gyda Sbarduno, os gwelwch yn dda.

Rolau Diffiniol

Yn ystod y gweithdy rhithiol ar-lein, bydd Sbarduno yn gyfrifol am y canlynol yn unig:
• cyflwyno ac arwain y Gweithdy Gwyddonol rhithiol, ymarferol, un awr o hyd
• peidio tynnu unrhyw luniau na ffilmio yn ystod y Gweithdy Gwyddonol
• peidio cadw unrhyw gofnod digidol o’r sesiwn
• rhannu’r linc cymryd rhan (Microsoft Teams neu Google Meet) drwy ebost i’r athro / athrawes cyswllt, ac nid yn uniongyrchol â disgyblion
• ddim angen derbyn unrhyw fanylion personol am ddisgybl / ddisgyblion sy’n rhan o’r sesiwn.

Yn ystod y gweithdy rhithiol ar-lein, bydd yr ysgol yn gyfrifol am y canlynol:
• cysylltu â’r rhieni / gwarcheidwaid yn gofyn am ganiatâd i’r plentyn gymryd rhan yn y Gweithdy Gwyddonol ar lein, gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau ac i ryngweithio â Sbarduno, drwy ddefnyddio camera ddwy-ffordd. Pe byddai rhiant (rhieni) / gwarcheidwad (gwarcheidwaid) ddim yn rhoi caniatâd, dylid sicrhau fod y plentyn (plant) yn cymryd rhan ond ddim yng ngolwg y camera, neu gall yr ysgol benderfynu peidio â throi’r camera ymlaen
• peidio â rhannu’r linc cymryd rhan gyda neb arall
• sicrhau nad yw’r Gweithdy Gwyddonol ddim yn cael ei ffilmio a’i rannu ag unrhyw un arall
• troi’r camera i ffwrdd os nad ydynt yn dymuno i’r Gweithdy fod yn un ddwy-ffordd.
• gwirio nad oes gan blentyn unrhyw alergedd i’r cynhwysion a ddefnyddir yn yr arbrofion o fewn y Gweithdy Bwyd, a chael caniatâd rhiant / gwarcheidwad i’r plentyn gael bwyta’r cynnyrch ar ddiwedd yr arbrawf (e.e., hufen iâ, cerrig siocled)

Mae gan yr ysgol yr hawl i dynnu lluniau yn ystod y sesiwn, gan gynnwys lluniau o Awen Ashworth (Perchennog), disgyblion yn cymryd rhan yn yr arbrofion a hefyd i dagio @Sbarduno ar y cyfryngau cymdeithasol. Cyfrifoldeb yr ysgol fydd sicrhau caniatâd tynnu lluniau’r disgyblion.

Gwneud cwyn

Yr awdurdod arolygol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer materion diogleu data yw’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth. Os ydych yn teimlo bod eich hawliau diogleu data wedi’u hesgeulso mewn unrhyw ffordd gennym ni, gallwch wneud cwyn i’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data’r cwmni yw Awen Ashworth. Gellir cysylltu â hi drwy awen@sbarduno.com

Cwestiwn?

Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.