Trosolwg

Sesiynau Academi

Mae’r sesiynau hyn wedi’u harwain gan athrawon brwdfrydig a phrofiadol, a hynny yn ystod tymor yr ysgol ac ar ôl oriau ysgol. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y disgyblion o fewn Mathemateg a phynciau eraill.

Adran Gymorth

I wneud ymholiad am ddatblygiad eich plentyn, i leisio unrhyw bryderon neu i'n hysbysu na fydd eich plentyn yn bresennol yn y wers Academi nesaf oherwydd salwch, cliciwch ar yr adran berthnasol isod:

Mathemateg Cynradd

Manylion:

Mae’r sesiynau ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 sydd wedi’u darparu gan athrawon profiadol. Mae pob sesiwn yn cynnwys agweddau o Fathemateg pen, Mathemateg weithdrefnol, datrys problemau a gêm rhifedd. Mae pob sesiwn yn awr o hyd, ac ar gael i grwpiau bychain a thorfol.

Ar hyn o bryd, mae’r Academi ar gyfer Blwyddyn 3 a 4 gyda’i gilydd, tra bod yr Academi ar gyfer Blwyddyn 5 a 6 yn cael eu cynnal ar wahân.

Cost: £20 y sesiwn
Lleoliad: Neuadd Goffa Bethel, LL55 1YE
Capasiti: Uchafswm o 10 plentyn pob sesiwn
Dyddiadau: Nos Lun yn ystod tymor yr ysgol

Eifion

Eifion

Mathemateg Uwchradd

Cynhelir sesiynau Academi ar gyfer Blwyddyn 7-9, sy’n eithaf generig er mwyn magu hyder y disgyblion.

Mae’r sesiynau Academi ar gyfer Blwyddyn 10 ac 11 eto wedi’u darparu gan dîm o athrawon profiadol ac yn cynnwys yr agweddau canlynol: rhif; algebra; siâp a gofod; data a thrigonometreg.

Manylion:

Cost: £20 y sesiwn
Lleoliad: Neuadd Goffa Bethel, LL55 1YE
Capasiti: Uchafswm o 10 plentyn pob sesiwn
Dyddiadau: Nos Lun yn ystod tymor yr ysgol

Alaw

Alaw

Mathemateg Uwchradd

Cynhelir sesiynau Academi ar gyfer Blwyddyn 7-9, sy’n eithaf generig er mwyn magu hyder y disgyblion.

Mae’r sesiynau Academi ar gyfer Blwyddyn 10 ac 11 eto wedi’u darparu gan dîm o athrawon profiadol ac yn cynnwys yr agweddau canlynol: rhif; algebra; siâp a gofod; data a thrigonometreg.

Manylion:

Cost: £20 y sesiwn
Lleoliad: Neuadd Goffa Bethel, LL55 1YE
Capasiti: Uchafswm o 10 plentyn pob sesiwn
Dyddiadau: Nos Lun yn ystod tymor yr ysgol

Alaw

Alaw

Gwyddoniaeth

Sesiynau Academi Gwyddoniaeth wedi’u darparu a’u paratoi gan athrawon profiadol a brwdfrydig i gynorthwyo pobl ifanc ym Mlwyddyn 10 i 13. Cyfle i adolygu a magu hyder.

Manylion:

Lleoliad: M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Menai, Gaerwen, Ynys Môn. LL60 6AR

Digwyddiadau

Ar y gweill...

Cyn cychwyn cwrs academi, gofynnir i bob rhiant/gwarchodwr lenwi a darllen y dogfennau isod.

Adborth Academi

Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Read More
Llai o blant na mewn ysgol, deall y gwaith yn dda, athro yn gwneud gwaith yn hwyl.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Read More
Gema tabla, Y bunk beds ac adio a thynnu.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Read More
Wedi gwella lot yn y tablau ac agweddau eraill a mwy hyderus.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Read More
100% yn teimlo’n fwy hyderus am Fathemateg yn y dosbarth.
Rhiant Academi CynraddSesiwn Academi
Read More
Waw! Oedd y plant di mwynhau y sesiwn neithiwr! Oedden nhw'n 'buzzing' yn dod allan! Gwych. Oedden nhw'n meddwl bod Eifion yn wych!
Previous
Next

Tanysgrifiwch am y diweddaraf gan Sbarduno

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.