Crëwyd Sbarduno yn 2019 er mwyn trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau addysgol a diwydiannol i bobl ifanc o bob oed. Bwriad Awen Ashworth, perchennog yw i ysbrydoli’r bobl ifanc i ystyried gyrfa mewn STEM ac i feithrin eu diddordeb ym maes Gwyddoniaeth.
Mae’n flaenoriaeth gan Sbarduno i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau a darparwyr eraill i hyrwyddo’r prif negeseuon o fewn addysg, boed hynny drwy STEM, lles neu Sgiliau Allweddol.