• Parchu hawliau eraill a pheidio ag ymddwyn mewn modd heriol nac aflonyddol sy’n cael ei ystyried yn amharchus i eraill.
• Dylai’r cyfranogwyr ddangos parch a chwrteisi i’r aelodau staff drwy’r adeg.
Nodir – bydd unrhyw ymddygiad sy’n cael ei ystyried yn aflonyddol gan gyfranogwr yn torri’r cytuneb. Gofynnwn i chi drafod y rheolau hyn gyda’ch plentyn cyn cymryd rhan. Pe byddai cyfranogwr yn parhau i ymddwyn yn erbyn y rheolau, bydd y cytundeb yn dod i ben.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd Sbarduno i weld sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy fydd yn cael mynediad iddo, sut y cedwir eich gwybodaeth yn ôl y gyfraith a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth am sesiynau a digwyddiadau eraill sydd gennym, dilynwch @Sbarduno.
• Enw cyntaf a chyfenw rhiant / gwarcheidwad
• Enw cyntaf a chyfenw’r cyfranogwr / cyfranogwyr
• Cyfeiriad / cyfeiriadau
• Cyfeiriad / cyfeiriadau e bost
• Rhif / rhifau ffôn
• Cefnogaeth ychwanegol y maent eu hangen (opsiynol)
Rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol i brosesu gwybodaeth gyffredinol:
• Ble mae gennym eich caniatâd
• Ble mae prosesu eich data personol o ddiddoreb i’r cyhoedd
• Ble mae’r angen i ni brosesu eich data personol yn angenrheidiol ar gyfer ein buddion cyfreithlon neu dryddydd parti a sydd ddim yn cael ei ddiystyru gan eich hawliau prefiatrwydd.
• Mae gennych yr hawl i gael mynediad i’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi / eich plentyn.
• Mae gennych yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi / eich plentyn yr ydych yn credu sy’n anghywir neu’n anghyflawn.
• Mae gennych yr hawl i wrthod ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenon marchnata penodol. Os nad ydych yn dymuno derbyn unrhyw ohebiaeth bellach gennym, a fyddech gystal â chysylltu â ni. Byddwn yn peidio anfon gohebiaeth i chi ond yn parhau i gadw cofnod ohonoch a’ch dymuniad i beidio clywed gennym.
• Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth. Rhaid nodi pe byddech yn dymuno gwneud hyn yna ni fydd unrhyw gofnod o’ch dymuniad i beidio â derbyn gohebiaeth gennym. Mae’n bosibl y byddech wedyn yn dechrau derbyn gohebiaeth gennym yn y dyfodol pe byddem yn derbyn eich manylion gan ffynhonnell wahanol.
• Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar sail eich caniatâd, ond mae gennych yr hawl i’w dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Gofynnir i chi gysylltu â ni pe byddech yn dymuno gwneud hynny.
Manylion cyswllt: awen@sbarduno.com