Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi, Defnyddiwr y Gwefan a Sbarduno, perchennog a darparwr y Gwefan. Mae Sbarduno yn cymryd preifatrwydd eich gwybodaeth o ddifrif. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n defnydd ni o unrhyw a’r holl Ddata sy’n cael ei gasglu gennym, neu yr ydych chi’n ei rannu â ni, mewn perthynas â’ch defnydd o’r Wefan.
Darllenwch y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus, os gwelwch yn dda.

Diffiniadau a dehongliad

1. Yn y polisi preifatrwydd hwn, defnyddir y diffiniadau canlynol:

Data: yn gasgliadol yr holl wybodaeth yr ydych yn ei gyflwyno i Sbarduno drwy’r Wefan. Mae’r diffiniad yn ymgorffori, lle’n berthnasol, y diffiniadau a ddarperir gan Gyfreithiau Diogelau Data;

Cwcis: Fffeil testun bychan a roddir ar eich cyfrifiadur gan y Gwefan wrth i chi ymweld â rhai rhannau o’r Wefan ac / neu pan ddefnyddiwch nodweddion benodol o’r Wefan. Mae manylion y cwcis a ddefnyddir gan y Gwefan i’w gweld yn y cymal isod (Cwcis); 

Cyfreithiau Diogelu Data: unrhyw gyfraith perthnasol sydd mewn perthynas â phrosesu Data personol, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i’r Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data (GDPR), ac unrhyw gyfreithiau gweithrediad ac atodiadol cenedlaethol, rheoliadau a deddfwriaeth eilradd;

GDPR: Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data y DU;

Sbarduno: Sbarduno, Ystafell 123, Busnes@LlandrilloMenai, Ffordd Penlan, Bangor, Gwynedd, LL57 4FH.

Cyfraith Cwci y DU ac Undeb Ewrop: Rheoliadau Cyfathrebu Preifatrwydd ac Electroneg (Cyfarwyddiadol EC) 2003 sy’n ddiwygiedig gan y Rheoliadau Cyfathrebu Preifatrwydd ac Electroneg (Cyfarwyddiadol EC) (Diwygiedig) 2011 a’r Rheoliadau Cyfathrebu Preifatrwydd ac Electroneg (Cyfarwyddiadol EC) (Diwygiedig) 2018;

Defnyddiwr neu chi: Unrhyw drydedd parti sy’n cael mynediad i’r Wefan ac sydd ddim (i) wedi’u cyflogi gan Sbarduno ac yn dilyn eu gwaith neu (ii) mewn cysylltiad fel ymgynghorydd neu fel arall yn darparu gwasanaeth i Sbarduno ac sy’n cael mynediad i’r Wefan mewn cyswllt â darpariaeth o wasanaeth o’r math;

Gwefan: y gwefan yr ydych yn ei ddefnyddio, sbarduno.com / en ac unrhyw is barthau o’r safle oni bai iddynt gael eu neilltuo’n ffurfiol gan eu termau ac amodau eu hunain;

2. Yn y polisi preifarwydd hwn, os nad yw’r cynnwys angen dehongliad gwahanol:
a. mae’r unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb;
b. mae’r cyfeiriadau at yr is-gymalau; cymalau, atodlenni neu’r atodiadau yn is-gymalau, cymalau, atodlenni neu’r atodiadau o’r polisi preifatrwydd hwn;
c. mae’r cyfeiriad i berson gan gynnwys ffyrmiau, busnesau, endidau llywodraethol, ymddiriedolaeth a phartneriaethau;
d. mae “yn cynnwys” yn golygu “cynnwys heb gyfyngiadau”;
e. mae cyfeiriad at unrhyw ddarpariaeth statudol, yn cynnwys unrhyw newidiadau neu gywiriadau ohonno;
f. nid yw penawdau ac is-benawdau yn ffurfio rhan o’r polisi preifatrwydd hwn.

Terfynau’r polisi preifatrwydd

3. Mae’r polisi preifarywdd hwn yn berthnasol i weithredoedd Sbarduno a’i Ddefnyddwyr mewn perthynas â’r Wefan. Nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw wefannau eraill y gellid ymweld â hwy drwy’r Wefan yma, gan gynnwys, a heb ei gyfyngu i gysylltiadau y gallwn ei ddarparu i wefannau cyfryngau cymdeithasol..

4. At bwrpas Cyfreithiau Diogelu Data cymwysadwy, Sbarduno yw’r “rheolwr data”. Golygai hyn mai Sbarduno sy’n penderfynu i beth ac ym mha ffordd y prosesir eich Data.

Data a gesglir

5. Gallwn gasglu’r Data canlynol, sy’n cynnwys Data personol, gennych chi:
a. enw
b. manylion cyswllt megis cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn
c. manylion ariannol megis rhifau cardyn credyd / debyd
ch. cyfeiriad IP (cesglir yn awtomatig)
d. math a fersiwn porwr gwe (cesglir yn awtomatig) ac ym mhob achos, mewn cytuniaeth â’r polisi preifatrwydd hwn.

Sut ydym yn casglu Data

6. Rydym yn casglu Data drwy’r dulliau canlynol:
a. data wedi’i gyflwyno gennych chi; ac
b. data a gesglir yn awtomatig.

Data a roddir i ni gennych chi

7. Bydd Sbarduno yn casglu eich Data mewn sawl ffordd, er enghraifft:
a. pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy’r Wefan, dros y ffôn, post, e bost neu unrhyw ffordd arall;
b. pan fyddwch yn cwblhau arolygon yr ydym yn eu defnyddio ar gyfer dibenion ymchwil (er nad oes gorfodaeth i chi ymateb)
c. pan fyddwch yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu hysbysebiad drwy’r cyfryngau cymdeithasol
ch. pan fyddwch yn gwneud taliad i ni, drwy’r Wefan yma neu fel arall
ac ym mhob achos, mewn cytuniaeth â’r polisi preifatrwydd hwn.
d. pan fyddwch yn dewis derbyn gwybodaeth marchnata gennym ni dd. pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau; ac ym mhob achos, mewn cytuniaeth â’r polisi preifatrwydd hwn.

Data a gesglir yn awtomatig

8. I raddau y byddwn yn cael mynediad i’r Wefan, byddwn yn casglu eich Data yn awtomatig, er enghraifft:
a. rydym yn casglu ychydig o wybodaeth am eich ymweliad â’r Gwefan yn awtomatig. Mae’r wybodaeth yma yn ein helpu i wneud gwelliannau i gynnwys y Gwefan a’i fordwyaeth, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, y dyddiad, amseroedd a pha mor aml yr ydych yn cael mynediad i’r Wefan a’r modd yr ydych yn ei ddefnyddio a rhyngweithio â’i gynnwys.
b. cesglir eich Data yn awtomatig drwy’r cwcis, yn unol â’r gosodiadau cwcis ar eich porwr. Am ragor o wybodaeth am cwcis a sut y defnyddir hwy ar y Wefan, gwelwch yr adran isod gyda’r pennawd ‘Cwcis’.

Ein defnydd o Ddata

9. Rydym angen rhan neu’r holl Ddata uchod o bryd i’w gilydd er mwyn darparu’r gwasanaeth a phrofiad gorau posibl i chi wrth ddefnyddio’r Wefan. Yn benodol, gallwn ddefnyddio’r Data am y rhesymau canlynol:
a. cadw cofnodion mewnol;
b. gwneud gwelliannau i’n cynnyrch / gwasanaethau;
c. trosglwyddiad o ddeunyddiau marchnata a all fod o ddiddordeb i chi drwy’r e bost; ac ym mhob achos, mewn cytuniaeth â’r polisi preifatrwydd hwn.
10. Mae’n bosibl i ni ddefnyddio eich Data am y rhesymau uchod pe byddem yn gweld hynny yn angenrheidiol i’n diddordebau cyfreithlon. Os nad ydych yn hapus â hyn, mae gennych yr hawl i wrthod rhai amgylchiadau (gweler yr adran isod gyda’r pennawd ‘Eich hawliau’).
11. Er mwyn gohebu deunyddiau marchnata yn uniongyrchol â chi drwy e bost rydym angen derbyn eich caniatâd, unai drwy ddewis ymuno neu ddewis ymuno hawdd:
a. cydsyniad dewis ymuno hawdd yw math penodol o gydsyniad sy’n berthnasol pan yr ydych chi wedi rhyngweithio â ni yn y gorffennol (er enghraifft, rydych wedi cysylltu â ni i ofyn am ragor o wybodaeth am gynnyrch / wasanaeth benodol, a rydym yn marchnata cynnyrch / gwasanaethau tebyg). O dan cydsyniad “dewis ymuno hawdd” byddwn yn cymryd eich bod yn cydsynio oni bai eich bod yn dewis peidio ag ymuno.
b. ar gyfer mathau eraill o e-farchnata rydym angen derbyn eich cydsyniad penodol, hynny yw, gofynnir i chi weithredu’n bositif a chadarnhaol wrth gydsynio, er enghraifft drwy rhoi tic mewn bocs a ddarperir.
c. os nad ydych yn hapus gyda’n ffordd o farchnata, mae gennych yr hawl i dynnu’n ôl eich caniatâd ar unrhyw adeg. I dderbyn rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn, gweler yr adran isod o dan y pennawd “Eich hawliau”.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu eich Data

12. Gallwn rannu eich Data gyda’r grwpiau canlynol o bobl am y rhesymau isod:
a. ein gweithwyr, asiantiaid ac / neu cynghorwyr proffesiynol – i ymateb a chynghori i geisiadau cleientiaid; ac ym mhob achos, mewn cytundeb â’r polisi preifatrwydd hwn.

Cadw Data yn ddiogel

13. Byddwn yn defnyddio mesurau technegol a chyfundrefnol i ddiogelu eich Data, er enghraifft:
a. mynediad i’ch cyfrif drwy gyfrinair ac enw defnyddiwr sy’n unigryw i chi.
b. cedwir eich Data ar serfwyr diogel.
c. Taliadau wedi’u diogelu drwy ddefnyddio technoleg SSL (fel rheol byddwch yn gweld eicon clo neu far cyfeiriad gwyrdd (neu’r ddau) yn eich porwr pan mae’r dechnoleg yma’n cael ei ddefnyddio gennym).
14. Bydd mesuriadau Technegol a chyfundrefnol yn cynnwys mesuriadau i ddelio â thoriad data amheus. Os ydych yn amau unrhyw gamddefnydd neu golled neu fynediad anawdurdodedig i’ch Data, yna cysylltwch ar unwaith drwy’r cyfeiriad e bost canlynol: awen@sbarduno.com.
15. Os ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth fanwl gan Get Safe Online ar sut i ddiogelu eich gwybodaeth a’ch cyfrifiaduron a dyfeisiau rhag twyll, lladrad hunaniaeth, feirysau a nifer o broblemau eraill ar-lein, ewch i http://www.getsafeonline.org. Mae Get Safe Online wedi’i gefnogi gan Lywodraeth YF a busnesau blaenllaw.

Cadw Data

16. Oni bai bod angen cyfnod dargadw hirach neu sy’n ganiataëdig o ran cyfraith, cedwir eich Data ar ein systemau am cyfnod angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a amlinellir yn y polisi preifarwydd hwn neu hyd nes y byddwch yn gofyn i ni ddileu eich Data.
17. Hyd yn oed os dileïr eich Data, gall gael ei gadw ar y cyfryngau wrth gefn neu archifol am resymau rheolaethol, cyfreithiol neu dreth.

Eich Hawliau

18. Mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’ch Data:
a. Hawl i fynediad – yr hawl i ofyn am (i) copïau o’r wybodaeth yr ydym yn ei gadw amdanoch chi a hynny unrhyw bryd, neu (ii) ein bod yn addasu, diweddaru neu dileu’r wybodaeth. Pe byddem yn rhoi mynediad i chi at y wybodaeth yr ydym yn ei gadaw amdanoch chi, ni fyddwn yn codi unrhyw dâl am hyn, oni bai bod eich cais “yn amlwg yn ormodol neu’n ddi-sail”. Lle mae gennym yr hawl gyfreithiol, fe allwn wrthod eich cais. Pe byddem yn gwrthod eich cais, byddwn yn eich hysbysu o’r rheswm dros hynny.
b. Hawl i gywiro – yr hawl i gywiro eich Data os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.
c. Hawl i ddileu – yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu’r Data oddi ar ein systemau.
d. Hawl i atal ein defnydd o’ch Data – yr hawl i’n “rhwystro” rhag defnyddio’ch Data neu gyfyngu y ffordd y gallwn ei ddefnyddio.
e. Hawl i hygludedd data – yr hawl i ofyn i ni symud, gopïo neu drosglwyddo eich Data.
f. Hawl i wrthod – yr hawl i wrthod ein defnydd o’ch Data, gan gynnwys lle yr ydym yn ei ddefnyddio er budd cyfreithlon.
19. I wneud unrhyw ymholiadau,cyflawni unrhyw un o’ch hawliau a restrir uchod, neu i dynnu’n ôl eich caniatâd i brosesu eich Data (lle mae caniatâd yn sail gyfreithiol i ni brosesu eich Data), a fyddech cystal â chysylltu â ni drwy’r cyfeiriad e bost canlynol: awen@sbarduno.com.
20. Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym wedi delio â’ch cwyn ynglŷn â sut yr ydym wedi trin eich Data, gallwch gyfeirio’ch cwyn i’r awdurdod diogelu data perthnasol. Ar gyfer y DU, dyma’r Swyddfa Wybodaeth y Comisinydd (ICO) Ceir hyd i fanylion cyswllt yr ICO ar y gwefan: https://ico.org.uk/.
21. Mae’n bwysig bod y Data a gedwir amdanoch yn fanwl gywir ac yn gyfredol. A fyddech gystal â’n hysbysu o unrhyw newid i’ch Data yn ystod y cyfnod yr ydym yn ei gadw, os gwelwch yn dda.

Cysylltiadau i wefannau eraill

22. Gall y Gwefan hwn, o bryd i’w gilydd, ddarparu cysylltiadau i wefannau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y mathau yma o wefannau ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn ymestyn i’ch defnydd chi o’r gwefannau hyn. Argymhellir eich bod yn darllen polisi neu ddatganiad preifatrwydd y gwefannau eraill cyn eu defnyddio.

Newid perchnogaeth busness a rheolaeth

23. Gall Sbarduno o bryd i’w gilydd, ehangu neu leihau ein busnes, a gall hyn olygu gwerthu ac / neu drosglwyddo rheolaeth Sbarduno yn gyfan neu’n rhannol. Bydd y Data a ddarperir gan Ddefnyddwyr, lle bo’n briodol i unrhyw ran o’n busnes, yn cael ei drosglwyddo ynghyd â’r rhan hwnnw, a bydd y perchennog newydd neu’r rheolwr newydd, o dan amodau’r polisi preifatrwydd hwn, â’r hawl i ddefnyddio’r Data i’r pwrpas a gafodd ei rannu â ni yn y lle cyntaf.
24. Gallwn ddatgelu Data i ddarpar brynwyr y busnes, neu unrhyw ran ohono.
25. Mewn perthynas â’r amgylchiadau uchod, byddwn yn cymryd y camau cywir hynny i sicrhau bod eich preifarwydd yn cael ei warchod.

Cwcis

26. Gall y Gwefan hwn roi a chael mynediad i Cwcis penodol ar eich cyfrifiadur. Mae Sbarduno yn defnyddio Cwcis i wella’r profiad o ddefnyddio’r Wefan a hefyd tuag at gwella ein harlwy o gynhyrchion a gwasanaethau. Mae Sbarduno wedi dewis y Cwcis hyn yn ofalus ac wedi cymryd y camau priodol i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi’i ddiogelu a’i barchu bob tro.
27. Mae’r holl Cwcis a ddefnyddir gan y Gwefan hwn yn cael eu defnyddio mewn cydweddiad â’r Gyfraith Cwcis y DU ac Undeb Ewrop.
28. Cyn i’r Gwefan roi’r Cwcis ar eich cyfrifiadur, byddwch yn gweld neges sy’n gofyn am eich caniatâd i osod y Cwcis hynny. Wrth roi eich caniatâd i roi’r Cwcis, rydych yn gadael i Sbarduno ddarparu profiad a gwasanaeth gwell i chi. Mae gennych yr hawl i wrthod rhoi caniatâd i’r defnydd o’r Cwcis, ond ni fydd rhai nodweddion penodol o’r Wefan yn gweithio’n llawn, neu fel y dylid gwneud.
29.Gall y Gwefan hwn rhoi’r Cwcis canlynol:
Cwcis dadansoddol / perfformiad: Maent yn ein galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae’r ymwelwyr yn mynd o gwmpas ein gwefan wrth ei ddefnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella’r ffordd mae’r wefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod y defnyddiwr yn dod o hyd i’r hyn maent yn chwilio amdano yn hawdd.
30. Gallwch ddod o hyd i restr o’r Cwcis yr ydym yn ei ddefnyddio yn Rhestr Cwcis.
31. Gallwch ddewis i alluogi neu anablu y Cwcis ar eich prowr rhyngrwyd. Yn ddiofyn, mae’r rhan helaeth o’r porwyr rhyngrwyd yn derbyn Cwcis, ond gellir newid hyn. Am fanylion pellach, cysylltwch â’r fwydlen gymorth yn eich porwr rhyngrwyd.
32. Gallwch ddewis i ddileu Cwcis unrhyw bryd; ond, mae’n bosibl i chi golli unrhyw wybodaeth sy’n eich galluogi i gael mynediad i’r Wefan yn gyflymach ac yn fwy effeithlon, gan gynnwys eich gosodiadau personoliad.
33. Argymhellir eich bod yn sicrhau bod eich porwr rhyngrwyd wedi’i gadw yn gyfredol, a’ch bod yn ymgynhori â’r cymorth a’r arweiniad a ddarperir gan ddatblygwr eich porwr rhyngrwyd os ydych yn ansicr o sut i addasu eich gosodiadau preifatrwydd.
34. Am rhagor o wybodaeth cyffredinol am cwcis, gan gynnwys sut i’w anablu, ewch i aboutcookies.org. Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i ddileu’r cwcis o’ch cyfrifadur.  

Cyffredinol

35. Ni allwch drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau o dan y polisi preiftarwydd hwn i berson arall. Gallwn drosglwyddo ein hawliau o dan y polisi preifatrwydd hwn lle y credir na fydd eich hawliau chi wedi’u heffeithio.
36. Os yw unrhyw lys neu awdurdod cymwysedig yn dargafnod bod unrhyw ddarpariaeth o’r polisi preifatrwydd hwn (neu rhan o unrhyw ddarpariaeth) yn annilys, anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, bydd y ddarpariaeth honno, neu rhan o’r ddarpariaeth yn cael ei ddileu, ac ni effeithir ar ddilysrwydd a gorofodadwyedd o ddarpariaethau eraill y polisi preifatrwydd hwn.
37. Os nad yw wedi’i gytuno, ni fydd oedi, gweithred na hepgoriad gan unrhyw blaid wrth gyflawni unrhyw hawl neu wella yn cael ei weld fel ildiad o hynny, neu o unrhyw hawl neu wella arall.
38. Bydd y Cytundeb hwn wedi’i lywodraethu gan a’i ddehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Bydd yr holl ddadleuon a godir o dan y Cytundeb hwn yn fater i’r awdurdodaeth dethol o lysoedd Cymreig a Saesnig.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

39. Mae gan Sbarduno yr hawl i newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, pan ydym yn gweld yr angen i wneud hynny, neu pan fydd angen yn ôl cyfraith. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu postio yn syth ar y Gwefan, ac fe’i gymerir yn dybiedig eich bod wedi derbyn termau’r polisi preifatrwydd hwn ar eich defnydd cyntaf o’r Gwefan yn dilyn y newidiadau. Gallwch gysylltu â Sbarduno drwy e bostio: awen@sbarduno.com.

Dadansoddol / Perfformiad

Rydym yn defnyddio’r cwcis dadansoddol / perfformiad canlynol:
Dadansoddol a Pherfformiad
Rydym yn defnyddio’r cwci hwn i’n cynorthwyo i ddadansoddi sut mae’r defnyddwyr yn defnyddio’r wefan.

Cwestiwn?

Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod