Gwyddoniaeth i bawb

Gweithdai Sbarduno

Mae lles yn tu hwnt o bwysig, a dyna pam rhoddir pwyslais ar hwyl drwy’r arbrofion syml. Mae Sbarduno yn parhau i weithio gyda pobl o bob oed yn ysbrydoli a chodi ymwybyddiaeth o’r byd Gwyddonol.

Gweithdai
Ar-lein

Mae’r gweithdai hwyliog ac addysgol ar-lein yn para awr o hyd. Maent yn addas ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen neu Gyfnod Allweddol 2. Bydd y Cyfnod Sylfaen yn cymryd rhan mewn 2 arbrawf, a Chyfnod Allweddol 2 yn cymryd rhan mewn 3 arbrawf. Gofynnir i’r ysgol ddarparu’r adnoddau ar gyfer cymryd rhan yn y gweithdai hyn.

Manylion:

Cost: £150
Lleoliad: Microsoft Teams neu Google Meet
Capasiti: Hyd at 20 disgybl Cyfnod Sylfaen. Hyd at 30 disgybl Cyfnod Allweddol 2.
Amseroedd: 09:30y.b neu 01:15y.p

Datrys Problemau
Gweithdy Lles Meddwl
Gweithdy Bwyd
Gweithdy Lliwiau

Adborth

Gwenan Davies-JonesPennaeth Ysgol Gynradd Llanllechid
Yr unig beth sydd gennyf i'w ddweud yw: diolch! Gweithdai arbennig a buasem yn hoffi parhau i'ch defnyddio - er fod y plant yn ôl.
Ysgol Cwm BanwyPowys
Gweithdy Sbarduno STEM gwych ddoe. Dod â Gwyddoniaeth a Thechnoleg gydag agweddau o Ddaearyddiaeth yn fyw gyda pedwar arbrawf syml ond effeithiol! Edrych ‘mlaen i barhau gyda’r arbrofi dydd Llun.
Ysgol Rhiw-BechanPowys
Diolch i Awen o Sbarduno am ysbrydoli'n plant i fod yn wyddonwyr anhygoel! Cafwyd llawer o hwyl ac fe ddysgom lawer o ffeithiau diddorol am liwiau ac asidau.

Gweithdai
Wyneb-yn-Wyneb

Rydym yn cynnig gweithdai Wyneb-yn-Wyneb yn yr ysgolion am ddiwrnod cyfan, neu hanner diwrnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Cyfle gwych i ddisgyblion fod yn Wyddonwyr drwy gael y profiad o arbrofi, o ddarganfod, bod yn greadigol a datblygu sgiliau allweddol. Yn ystod y gweithdy bydd y disgyblion yn cael gwisgo cotiau labordy a sbectol diogelwch er mwyn cyfoethogi’r profiad o fod yn Wyddonydd. Darperir yr holl adnoddau ar gyfer yr arbrofion gan Sbarduno.

Manylion:

Cost: Dibynnu ar anghenion
Lleoliad: Neuadd neu ddosbarth yn yr ysgol
Capasiti: Hyd at 20 disgybl Cyfnod Sylfaen. Hyd at 30 disgybl Cyfnod Allweddol 2.

Enghreifftiau o'r arlwy wyneb-yn-wyneb:

Datrys Problemau
Gweithdy Lliwiau
Gweithdy Lles Meddwl
STEM i Bawb
Gweithdy hanner diwrnod lle mae’r dysgwyr yn cael dylunio, adeiladu a rasio ceir K’Nex. Mae’n bosibl ei gynnig fel sesiwn gyda’r rhieni a’r teulu ar ôl oriau ysgol. Cyfle i ddatblygu sgiliau allweddol megis gwaith tîm, datrys problemau, creadigrwydd ac wrth gwrs sgiliau STEM.

(CA 2 i fyny)

Cefnogi partneriaid

Mae’r gweithdai sydd ar gyfer neu gyda phartneriaid wedi’u cynllunio i ymateb i’w hanghenion busnes. Fe’i haddasir i gyd-fynd ag oedran a gallu’r gynulleidfa.

Mae’r arlwy a ddarperir ar gyfer partneriaid yn amrywiol, boed yn gyflwyniadau cychwyn busnes, gweithdai Gwyddonol, clipiau fideo neu’n sesiynau mentorau. Maent oll o fewn diddordeb Sbarduno ac yn ymateb i brif ffocws y cwmni, sef ysbrydoli, rhannu gwybodaeth Gwyddonol a diwydiannol, a datblygu sgiliau allweddol.

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.