Ffurflen Gofrestru
Cwrs Cynradd

Manylion Personol

Termau ac Amodau archebu, polisi canslad a rhybudd preifatrwydd

Unwaith mae’r blaendal wedi’i dalu, mae lle eich plentyn ar gyfer y 4 sesiwn wedi’i gadw.

Nid oes modd ad-dalu’r ffî.

Cysylltwch â sbarduno@gmail.com neu 01248 489 004 os ydych angen rhagor o wybodaeth.

Ymddygiad disgwyliedig gan gyfranogwyr

Er mwyn sicrhau chwarae teg i bawb yn ystod y sesiynau hyn, mae’n rhaid cadw lefel derbyniol o ddisgyblaeth ac ymddygiad. Nid ydym yn gosod rheolau llym gan fod y cyfranogwyr yn mynychu o’u gwirfodd. Er hyn, mae’n rhaid dilyn y canllawiau Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau bod gennym amgylchedd diogel ar gyfer dysgu. Disgwylir bod pawb yn cadw at y canlynol:

• Parchu hawliau cyfranogwyr eraill a pheidio ag ymddwyn mewn modd ymosodol nac aflonyddol a ystyrir yn sarhaus gan eraill.

• Parchu eiddo cyfranogwyr eraill, deunyddiau ac offer, gan gynnwys eiddo'r lleoliad.

• Disgwylir i gyfranogwyr ddangos parch a chwrteisi at aelodau staff Sbarduno drwy’r adeg.

• Dylai cyfranogwyr hysbysu aelod o staff os ydynt yn ymwybodol o unrhyw broblem a all amharu ar rediad y sesiynau e.g., bwlio, damweiniau, difrod i offer ayb.

• Disgwylir bod pob ffôn symudol wedi’i droi ffwrdd yn ystod y sesiynau.

• Peidiwch â dod â ffrindiau i’r sesiynau, na chwaith gofyn iddynt ddisgwyl amdanoch chi tu allan.

Noder, bydd unrhyw ymddygiad sy’n cael ei weld yn aflonyddol gan gyfranogwr, neu’n berygl iddi / iddo’i hun neu i weddill y grŵp yn torri amodau’r cytundeb. Gofynnwyn i chi drafod y rheolau hyn gyda’ch plentyn cyn iddi / iddo fynychu’r Academi. Os bydd y cyfranogwr yn parhau i ymddwyn mewn modd annerbyniol, bydd y cytundeb yn cael ei derfynu.

Disgwyliadau

Mae’r sesiynau yno i ddarparu cefnogaeth i’r addysg y mae eich plentyn yn ei dderbyn yn yr ysgol. Noder mai nid gwerthu’r gwasanaeth hwn fel modd o wella gradd disgwyliedig eich plentyn y mae Sbarduno os ydynt am eistedd arholiad – prif ffocws y sesiynau yw rhoi cefnogaeth ychwanegol a syniadau a fyddai’n anodd i’r athro / athrawes ei wneud yn ystod oriau ysgol arferol.

Cyfrifoldeb

Nid yw Sbarduno yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gyfranogwyr cyn nac ar ôl y sesiynau, ac nid oes hawl iddynt adael yr adeilad yn ystod y toriad. A fyddech gystal â sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser i gasglu’ch plentyn, a sicrhau ei bod yn gwybod i beidio â gadael yr adeilad heb oedolyn cyfrifol oni bai ei bod hi / ef wedi hysbysu’r aelod o staff ar ddechrau’r sesiwn.

Mae pob aelod o staff yn athrawon cymhwysiedig ac wedi cofrestru â’r Awdurdod Addysg Leol. Mae hyn yn cadarnhau bod gan pob aelod o staff DBS cyfredol llawn a’u bod â’r cofrestriadau amddiffyniadau mwyaf diweddar. Yn ystod y sesiynau hyn, byddant yn glynu i’r protocol maent yn ei ddilyn yn eu lleoliadau gwaith arferol.

Mae Sbarduno yn cadw copïau o DBS pob tiwtor ar y system.

Toriad

Bydd y sesiwn yn cychwyn yn brydlon am 4.20y.p a gorffen am 5.20y.p.

Ffïoedd

Mae ffïoedd cyfranogwyr yn cyfrannu tuag at gostau cyflwyno’r cwrs, gan gynnwys gweinyddiaeth, y lleoliad, costau’r hyfforddwyr a’r deunyddiau a ddarperir gan Sbarduno.

Polisi Canslad

• Pe byddai’n rhaid i Sbarduno orfod gohirio unrhyw sesiwn a gynhelir yn y lleoliad am resymau tu hwnt i’w rheolaeth, cynhelir sesiwn rhithiol yn ei le.

• Os nad yw tiwtor arferol eich plentynn ar gael am unrhyw reswn ar gyfer unrhyw un o’r seisynau, yna trefnir i diwtor arall gymryd y sesiwn, pe byddai’n bosibl.

• Noder, fe wnawn ein gorau i gynnal yr holl sesiynau yn y lleoliad. Ond, os fydd unrhyw newidiadau i ganllawiau’r Llywodraeth yn ystod y cyfnod oherwydd Covid-19, bydd sesiynau rhithiol ar-lein yn cael eu cynnig i chi. Diogelwch yw ein blaenoriaeth.

• Os yw sesiwn rhithiol ar-lein yn cael ei ohirio, rhoddir ad-daliad llawn ar gyfer y sesiwn hwnnw. Pe byddai cyfranogwyr eisiau gohirio, neu eu bod yn methu mynychu, dyma beth fydd y costau:

2 wythnos cyn y sesiwn = 50% o gostau’r sesiwn

48 awr hyd at 1 wythnos cyn y sesiwn = 75% o gostau’r sesiwn

Llai na 48 awr cyn y sesiwn (neu beidio troi fyny) = 100% o’r costau

Wrth archebu lle ar sesiynau Academi Sbarduno rydych yn cytuno i’r amodau a thelerau uchod.


Mae gan Sbarduno yr hawl i dorri’r cytundeb, neu i ddileu darpariaeth o unrhyw agwedd o’r gwasanaeth a roddir, drwy roi dim llai na rhybudd ysgrifenedig o 28 diwrnod, heb unrhyw anfantais i unrhyw hawliau nac unioni torri cytundeb. Unwaith mae’r hysbysiad wedi’i roi, gall Sbarduno ymestyn y cyfnod hysbysu unrhyw bryd cyn iddo ddod i derfyn, yn unol â chytundeb am lefel y gwasanaeth a roddir yn ystod y cyfnod ymestynol.

Defnyddio eich manylion personol

Mae preifatrwydd yn fater o bwys i ni, a byddwn ond yn defnyddio manylion personol eich plentyn ar gyfer gweinyddiaeth y cwrs ac i ddarparu’r deunyddiau ac / neu y gwasanaeth yr ydych wedi’i archebu gennym.

Gallwch weld hysbysiad preifatrwydd Sbarduno er mwyn gweld sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy sy’n cael mynediad iddo, y rheswm cyfreithiol dros gadw’r wybodaeth a hefyd eich hawliau mewn perthnasedd â’r wybodaeth hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth am gyrsiau eraill a digwyddiadau sydd gan Sbarduno i’w cynnig, gallwch danysgrifio i’n rhestr postio @sbarduno.com neu drwy ddilyn @sbarduno ar y cyfryngau cymdeithasol.

Categorïau o fanylion personol

Cedwir y categorïau canlynol o fanylion personol ar ein basdata:

• Enw bedydd a chyfenw rhiant / gwarcheidwad

• Enw bedydd a chyfenw cyfranogwr

• Cyfeiriad (au)

• Cyfeiriad (au) e bost

• Rhif (au) cyswllt ffôn

• Rhif (au) ffôn argyfwng

• Enw a chyfeiriad Meddyg

• Unrhyw gyflyrau meddygol

• Haen ac iaith arholiad

• Gradd disgwylieidig (opsiynol)

• Unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen (opsiynol)

• Ysgol a fynychir (opsiynol)

• Gwybodaeth am agweddau o’r gwaith maent yn ei gael yn anodd (opsiynol)

Y sail gyfreithiol

Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar y basdata, lle gallwn wneud hynny’n gyfreithiol. Mae’r fframwaith deddfwriaethol diogelu data yn darparu nifer cyfyngedig o resymau dros brosesu manylion personol.

Rydym yn ddibynnol ar y seiliau cyfreithiol canlynol er mwyn prosesu’r wybodaeth gyffredinol:

• Lle mae gennym eich caniatâd

• Lle mae prosesu eich data personol o ddiddordeb i’r cyhoedd

• Lle mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol i’n diddordebau cyfreithlon neu hynny o drydedd parti a sydd ddim wedi’u hanwybyddu gan eich hawliau preifatrwydd.

Pwy sy’n cael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol?

Er bod y wybodaeth a ddarperir yn angenrheidiol ar gyfer y sesiynau tiwtora, nid yw pob tiwtor yn cael mynediad at eich manylion personol na’i ddefnyddio.

Bydd Awen Ashworth, Perchennog Sbarduno yn cadw’r manylion hyn, a bydd ond yn rhannu’r wybodaeth angenrheidiol gyda’r twitor, fel bod modd i’ch plentyn gyrraedd ei lawn potensial.

Am ba mor hir byddwch yn cadw’r manylion personol?

Mae’r fframwaith deddfwriaethol diogelu data yn rhoi rhwymedigaeth arnom i adolygu am ba mor hir yr ydym yn cadw’r wybodaeth bersonol. Rydym ond yn gallu ei gadw am ba mor hir yr ydym angen y wybodaeth. Bwriedir cadw’r wybodaeth amdanoch mewn ffordd adnabyddadwy yn ein basdata, tra’ch bod yn parhau i ddymuno derbyn gohebiaeth gennym ni, neu am bynnag amser yr ydych yn hapus i dderbyn gwybodaeth am weithdai eraill a fyddai o fudd i’ch plentyn. Nid oes cynllun ar gweill i ddileu eich gwybodaeth.

Hawliau unigolyn

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a gedwir ar y basdata. Pe dymunech weithredu unrhyw un o’r hawliau hyn, a fyddech gystal â chysylltu â Sbarduno drwy un o’r dulliau a grybwyllir isod:

• Mae gennych hawl mynediad at y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi / eich plentyn.

• Mae gennych yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi / eich plentyn yr ydych yn meddwl sy’n anghywir neu’n anghyflawn.

• Mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein defnydd o’ch manylion personol ar gyfer pwrpas marchnata uniongyrchol. Os nad ydych yn dymuno derbyn rhagor o ohebiaeth gennym ni, a fyddech gystal â chysylltu â ni, os gwelwch yn dda? Byddwn yn dod â’r ohebiaeth i ben, ond yn parhau i gadw cofnod ohonoch a’ch dymuniad i beidio â chlywed gennym ni.

• Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth. Rhaid eich hysbysu pe byddem yn gwneud hyn, ni fydd gennym unrhyw gofnod o’ch cais i beidio â derbyn unrhyw ohebiaeth gennym ni. Mae’n bosibl y byddwch yn dechrau derbyn gohebiaeth gennym ni yn y dyfodol, pe bydddem yn derbyn eich manylion gan ffynhonnell wahanol.

• Lle mae prosesu eich manylion personol yn seiliedig ar eich caniatâd, mae gennych yr hawl i’w dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Os gwelwch yn dda a fyddech gystal â chysylltu â ni pe byddech yn dymuno gwneud hyn.

Manylion cyswllt: awen@sbarduno.com

Cwestiwn?

Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.