Mae gennym bolisi dychwelyd 30-diwrnod, sy’n golygu bod gennych chi 30 diwrnod ar ôl derbyn eich eitem i ofyn i’w ddychwelyd neu am ad-daliad.
I fod yn gymwys am ad-daliad, bydd rhaid i’r eitem fod yn yr un cyflwr a dderbyniwyd gennych, ac yn y pecyn gwreiddiol. Byddwch hefyd angen derbynneb neu dystiolaeth eich bod wedi’i brynu.
Er mwyn cychwyn y broses o ddychwelyd eitem, bydd angen i chi gysylltu â: claire@sbarduno.com. Os y derbynnir yr eitem yr ydych yn dymuno’i ddychwelyd, byddwn yn anfon label dychwelyd i chi, ynghyd â gwybodaeth am sut a lle i anfon y pecyn. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw eitem sydd wedi’i anfon yn ôl atom heb y cam cyntaf hwn.
Mae croeso i chi gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw ymholiad am ddychwelyd eitem / eitemau: claire@sbarduno.com
Difrod a Materion
Gofynnir i chi archwilio’r archeb ar ôl i chi ei dderbyn a chysylltu â ni ar unwaith os yw’r eitem yn ddiffygiol, wedi’i ddifrodi, neu eich bod wedi derbyn yr eitem anghywir fel bod modd i ni gywiro’r broblem yn syth.
Cyfnewidiadau
Dychwelwch yr eitem, ac unwaith mae’r ad-daliad wedi’i dderbyn, gallwch archebu eitem newydd ar wahân.
Ad-daliadau
Fe’ch hysbyswn unwaith yr ydym wedi derbyn yr eitem ac wedi’i archwilio, gan adael i chi wybod os yw’r ad-daliad yn llwyddiannus a’i peidio. Os yw’r ad-daliad yn cael ei gymeradwyo, yna cewch ad-daliad yn syth i’ch dull talu gwreiddiol. Nodwch gall gymryd peth amser i’r banc neu’r cwmni cerdyn credyd brosesu a thalu’r ad-daliad i chi.
Cwestiwn?
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.