Rydym yn gyflogwr â hawliau cydraddoldeb. Rydym yn ymroddedig i gydraddoldeb o gyfleoedd ac i ddarparu gwasanaeth, gan ddilyn prosesau sy’n rhydd o unrhyw wahaniaethu annheg ac anghyfreithlon. Nod y polisi hwn yw sirchau nad yw unrhyw ymgeisydd nac aelod o staff yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oed, anabledd, ailgyfeiriadu cenedl, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd na chred, rhyw na chyfeiriadedd rhywiol, na ellir eu dangos fel anfantais gan amodau neu anghenion sy’n berthnasol i berfformiad. Mae hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw un yn ddioddefydd neu’n profi unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu.
Gwerthfawrogir pobl fel unigolion sy’n meddu â barnau, diwylliannau, ffordd o fyw ac amgylchiadau amrywiaethol. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r holl staff, ac mae’n berthnasol i’r holl adrannau o gyflogadwyedd, gan gynnwys recriwtio, dewis, hyfforddi, gosodiad, datblygiad gyrfaol a dyrchafiad. Mae’r adrannau hyn yn cael eu monitro, ac fe ddiweddarir y polisïau ac ymarferion yn ôl yr angen er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu annheg ac anghyfreithlon, bwriadol, anfwriadol, uniongyrchol neu anuniongyrchol, agored neu guddedig yn bodoli.
Mae gan y Perchennog gyfrifoldeb yn bennaf i weinyddu a monitro’r polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a fel rhan o’r broses sicrhau bod holl bolisïau a phrosesau personél yn cael eu gweinyddu gyda’r nod o hyrwyddo cydraddoldeb o fewn cyfleoedd a dileu gwahaniaethu annheg ac anghyfreithlon.
Bydd holl staff, gweithwyr neu gontractwyr hunan-gyflogedig, boed yn gweithio’n rhan amser, llawn amser neu dros dro yn cael eu trin yn deg a chyda pharch. Bydd dewis ar gyfer cyflogaeth, dyrchafiad, hyfforddiant neu unrhyw fudd arall yn seiliedig ar allu a chymhwyster. Annogir a chynorthwyir staff i ddatblygu i’w llawn potensial, a defnyddir talentau ac adnoddau’r gweithlu i sicrhau bod effeithiolrwydd Sbarduno yn cyrraedd yr eithaf.
Mae Cydraddoldeb o gyfleoedd, gwerth amrywiaeth a chydsyniad gyda’r gyfraith o fudd i holl unigolion o fewn Sbarduno, gan edrych i ddatblygu sgiliau a gallu’r staff. Tra bod cyfrifoldeb o ddileu gwahaniaethu a sicrhau cydraddoldeb o gyfleoedd yn eistedd gyda’r rheolwr a’r goruchwylwyr, mae gan unigolion ar bob lefel y cyfrifoldeb i fod yn trin eraill â pharch ac urddas. Mae ymroddiad personol pob aelod o staff i’r polisi hwn a chymhwysiad o’i hegwyddorion yn hanfodol i ddileu gwahaniaethau a sicrhau cydraddoldeb ymhob agwedd o Sbarduno.
Ein ymrwymiad fel cyflogwr
Mae’r Perchennog yn ymroddedig i:
• greu awyrgylch lle mae gwahaniaethau unigol a chyfraniadau staff yn cael ei gydnabod, yn ogystal â’i werthfawrogi
• sicrhau bod pob aelod o staff, gweithiwr neu gontractwr hunan-gyflogedig â’r hawl i awyrgylch gwaith sy’n hyrwyddo urddas a pharch at bawb. Ni dderbynnir unrhyw ymddygiad o fygythion, bwlio nac aflonyddu
• ddarparu hyfforddiant, datblygiad a chyfleoedd dilyniant i’r holl staff
• ddeall bod cydraddoldeb yn y gweithle yn ymarfer rheolaeth dda ac yn gwneud synnwyr busnes
• adolygu’r holl ymarferion a gweithdrefnau cyflogadwyedd er mwyn sicrhau tegwch.
Ein ymrwymiad fel darparwr gwasanaeth
Mae’r Perchennog yn ymroddedig i:
• ddarparu gwasanaeth ar gyfer pob cleient, er gwaethaf eu hoed, anabledd, cenedl ailgyfeiriadu, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, cyn-droseddu, cyfrifoldebau gofal neu ddosbarth cymdeithasol
• sicrhau bod yr holl wasanaethau yn cael eu cyflwyno’n gyfartal a thrwy eu hasesu, eu bod yn cyrraedd yr anghenion amrywiaethol sydd gan ein defnyddwyr a’n cleientiaid
• lwyr gefnogi’r polisi gan yr uwch reolwyr a sicrhau bod cytundeb yn cael ei gyrraedd gyda chynrychiolaeth staff
• ddewis ar gyfer cyflogaeth, dyrchafiad, hyfforddiant neu unrhyw fudd arall ar sail gallu a chymhwyster yn unig
• adolygu a monitro’r polisi yn flynyddol
• gael gweithdrefnau clir sy’n galluogi’r cleientiaid, ymgeiswyr am swydd a staff i nodi
achwyniad neu i wneud cwyn os ydynt yn teimlo iddynt gael eu trin yn annheg
• drin toriad yn ein polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fel camweinyddiad a all arwain at weithrediad ddisgyblaethol.
Datganiad Polisi Cyfleoedd Cyfartal
Oed
Byddwn yn:
• sicrhau bod pobl o bob oed yn cael eu trin â pharch ac urddas
• sicrhau bod pobl sydd o oedran gweithiol yn derbyn mynediad cyfartal i’r cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, datblygiad a dyrchafiad
• herio tybiaeth gwahaniaethol am bobl ieuainc a hŷn
Anabledd
Byddwn yn:
• darparu addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau bod yr anabl yn cael mynediad i’n gwasanaethau a chyfleoedd gwaith
• herio tybiaeth gwahaniaethol am yr anabl
• parhau i wella ein mynediad i wybodaeth drwy sicrhau argaeledd o systemau
dolennau, cyfleusterau braille, fformatio arall a dehongliad iaith arwyddo.
Hil
Byddwn yn:
• herio hiliaeth pryd bynnag y bydd yn codi
• ymateb yn gyflym ac yn sensitif i ddigwyddiadau hiliol
• hyrwyddo cydraddoldeb hil o fewn y busnes.
Rhyw
Byddwn yn:
• herio tybiaeth gwahaniaethol am ddynion a merched
• cymryd camau positif i gywiro unrhyw effaith negyddol o wahaniaethu yn erbyn dynion a merched
• cynnig mynediad cyfartal i ddynion a merched i gynrychioliad, gwasanaethau,
cyflogaeth, hyfforddiant, gan annog sefydliadau eraill i ddilyn esiampl
• darparu cefnogaeth i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl trawsrywiol neu sydd ar fin derbyn cenedl ailgyfeiriadu.
Cyfeiriadedd rhywiol
Byddwn yn:
• sicrhau ein bod yn cymryd anghenion lesbiaid, hoywon a deurywiol i ystyriaeth
• hyrwyddo delweddu positif o lesbiaid, hoywon a deurywiol.
Crefydd neu gred
Byddwn yn:
• sicrhau bod crefydd neu gred staff ac arferion perthnasol yn cael eu parchu a’u dygymod lle’n bosibl
• parchu cred unigolion lle nad yw mynegi’r credoau hynny ddim yn gwrthdaro â hawliau cyfreithlon eraill.
Beichiogrwydd neu famolaeth
Byddwn yn:
• sicrhau ein bod yn trin pobl â pharch ac urddas, a’n bod yn hyrwyddo delwedd bositif o feichiogrwydd neu famolaeth
• herio tybiaethau gwahaniaethol am feichiogrwydd neu famolaeth ein staff
• sicrhau nad yw unrhyw unigolyn dan anfantais a’n bod yn rhoi ystyriaeth i anghenion beichiogrwydd neu famolaeth ein staff.
Priodas neu bartneriaeth sifil
Byddwn yn:
• sicrhau ein bod yn trin pobl â pharch ac urddas, a’n bod yn hyrwyddo delwedd bositif o briodas neu bartneriaeth sifil
• herio tybiaethau gwahaniaethol am briodas neu bartneriaeth sifil ein staff
• sicrhau nad yw unrhyw unigolyn dan anfantais a’n bod yn rhoi ystyriaeth i anghenion priodas neu bartneriaeth sifil ein staff.
Cyn-droseddwyr
Ni fydd gwahaniaethu yn erbyn ein staff er gwaethaf eu cefndir troseddol (ar wahân i phan yr ydym yn ymwybodol o’r risg i blant neu oedolion bregus)
Cyflog cyfartal
Sicrhawn bod ein holl staff, gwryw neu benyw â’r un hawl i’r un cyflog cytundebol a buddion wrth gyflawni’r un gwaith, gwaith wedi’i nodi fel gwaith cyfartal neu gwaith o werth cyfartalog.
Rhagfarn anymwybod
Mae Sbarduno yn cydnabod peryglon rhagfarn anymwybod a all godi yn y gweithle, sef lle ffurfir barn am unigolyn gan reolwr neu gydweithiwr a hynny heb iddynt fod yn ymwybodol o’i gyflawni.
Ceir sawl enghraifft gwahanol o ragfarn anymwybod, yn amrywio o gysylltiad â’r rhai o gefndir tebyg, i roi gormod o ystyriaeth i’r hyn sydd wedi’i adnabod fel nodwedd negyddol.
Bydd y sefydliad yn gweithio’n erbyn pob math o ragfarn anymwybod ymhob penderfyniad wrth gyflogi, gan gynnwys cyfleoedd recriwtio, dyrchafiad a hyfforddiant, gan roi sylw i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiad.
Yn benodol, bydd y perchennog yn gweithredu’r canlynol:
• Cynnal panel amrywiaethol i wneud penderfyniadau
• Cyfeirio at ofynion swydd benodol wrth wneud penderfyniadau recriwtio
• Diystyru unrhyw berthynas bersonol ffafriol gyda staff.
Cwestiwn?
Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.