Yn ddiweddar bu Sbarduno yn cynnal sesiynau darlithio Gwyddoniaeth ar gyfer Myfyrwyr Addysg Gynradd a T.A.R. Cynradd ac Uwchradd Prifysgol Bangor. Yn ystod y sesiynau rhennir syniadau am arbrofion a thasgau syml i’w gwneud ar lawr y dosbarth, yn ogystal â chynnig cefnogaeth. Bydd Awen yn parhau i ddarlithio yn y Brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd newydd 2021-2022.
Hyfforddi
Mae’r sesiynau hyfforddi yn rhoi’r cyfle i Awen siarad am ei phrofiadau personol, rhannu ei gwybodaeth am fyd addysg a diwydiant a dangos sut mae modd cyd-blethu’r ddau. Gyda Cwricwlwm i Gymru yn weithredol o fis Medi 2022, bydd Awen yn cynnig cyfleoedd i ysgolion dderbyn sesiynau hyfforddiant yn dangos sut mae modd plethu’r arbrofion Gwyddonol i bob agwedd o’r Cwricwlwm newydd. Mae’r sesiynau hyfforddiant yn cael eu teilwra i ateb gofynion partneriaid, ysgolion, mudiadau a chwmnïau.
Hyfforddi
Mae’r sesiynau hyfforddi yn rhoi’r cyfle i Awen siarad am ei phrofiadau personol, rhannu ei gwybodaeth am fyd addysg a diwydiant a dangos sut mae modd cyd-blethu’r ddau. Gyda Cwricwlwm i Gymru yn weithredol o fis Medi 2022, bydd Awen yn cynnig cyfleoedd i ysgolion dderbyn sesiynau hyfforddiant yn dangos sut mae modd plethu’r arbrofion Gwyddonol i bob agwedd o’r Cwricwlwm newydd. Mae’r sesiynau hyfforddiant yn cael eu teilwra i ateb gofynion partneriaid, ysgolion, mudiadau a chwmnïau.
Mentora
Mae cyfleoedd mentora o ddiddordeb mawr i Awen, oherwydd mae’n rhoi’r cyfle iddi siarad am ei phrofiad personol o sefydlu Sbarduno a mentro i’r byd hunan-gyflogedig. Mae hefyd yn gyfle iddi ysbrydoli’r bobl ifanc, eu hannog i fentro, pwysleisio’r hyn sy’n bwysig i fyd busnes, y sgiliau angenrheidiol a’r pwysicaf oll i fod yn gwbl hyderus yn eich gallu eich hun i lwyddo.
Ers sefydlu Sbarduno, mae Awen yn fodel rôl i Syniadau Mawr Cymru ac yn cynnal sesiynau am sut i gychwyn busnes gan fanylu ar sut yr aeth ati i gychwyn Sbarduno. Mae wedi cymryd rhan mewn sawl digwyddiad rhithiol, yn mentora, cefnogi a chyfrannu, ac yn edrych ymlaen at ail gydio mewn sesiynau wyneb-yn-wyneb yn fuan.
Yn y dyfodol, mi fydd Awen yn gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, drwy'r Gyfnewidfa Gyrfa Cymru. Yma bydd yn gallu cynnig sesiynau mentora, cefnogi byd gwaith, sesiynau gyrfaol, webinarau, a hynny drwy Gymru gyfan. Bydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nhw o ran darpariaeth STEM Gogledd, lle bydd yn gallu cynnig gweithdai i’r ysgolion Cynradd a'r Uwchradd.
Amcanion y cwrs oedd:
- codi hyder i wneud ‘arbrofion’ syml gyda’r plant
- gwella dealltwriaeth ynglŷn â Gwyddoniaeth
- helpu’r plant yn eu gofal i ddysgu egwyddorion syml Gwyddoniaeth
- eu hysbrydoli a bod yn hwyliog!
Ar ddiwedd y cwrs
roeddynt yn gallu:
- gweld cyswllt rhwng bywyd bob dydd er mwyn i’r plant sylweddoli pa mor bwysig a diddorol a pherthnasol yw Gwyddoniaeth
- ysbrydoli plant i ennyn diddordeb yn y maes o oed ifanc.
- gwneud arbrofion mewn ffordd hwyliog a gofalus.
- annog datblygu sgiliau modur, gweithio fel tîm a gweithio’n unigol.
O dan arweiniad Sbarduno, a thrwy'r bartneriaeth â'r Mudiad Meithrin derbyniodd staff Cylchoedd Meithrin Cymru y cyfle i ddysgu am Wyddoniaeth yn y blynyddoedd cynnar. Roedd yn gwrs ymarferol lle rhoddwyd y cyfle i roi cynnig ar wneud arbrofion Gwyddoniaeth syml a fyddai’n bosibl eu gwneud eto yn eu lleoliad. Roedd y gweithdy yn rhoi mewnolwg i ddulliau newydd o gyflwyno Gwyddoniaeth gan ddefnyddio offer syml. Gyda’r Cwricwlwm newydd ar y gweill, mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn un o’r chwe maes dysgu a phrofiad.
Gweithdai i Bartneriaid
Mewn partneriaeth â Hunaniaith cynhaliwyd gweithdai ar-lein hwyliog ar gyfer y teulu cyfan. Bu’n tu hwnt o lwyddiannus wrth i Sbarduno ddangos nid yn unig i’r plant fod Gwyddoniaeth yn hwyl, ond y rhieni hefyd.
Mae Sbarduno wedi cefnogi y Digwyddiad Arloesi a gynhaliwyd gan STEM Gogledd a Gyrfa Cymru ar gyfer disgyblion ysgolion Uwchradd Môn. Daeth llawer o fusnesau STEM at ei gilydd i osod her i bob grŵp. Rhoddwyd 20 munud iddynt ar bob stondin i ddatrys y broblem cyn symud ymlaen at y busnes STEM nesaf.
Rydym yn falch o gael gweithio gyda phartneriaid i deilwra’r gweithdai i gyd-fynd â’u anghenion busnes. Rydym yn cyd-weithio â darpariaethau sydd eisoes yn bodoli fel rhaglen Bright Sparks a noddir gan Scottish Power, a chyflwynir gan Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru Ymestyn yn Ehangach.
Mae Sbarduno wedi gweithio mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd Môn i gynnal y Gweithdy Lliwiau yn ystod y gwyliau ysgol. Fe’i cynhaliwyd yn Llyfrgell Llangefni. Roedd yn sesiwn ymarferol gyda’r bobl ifanc yn dysgu am gromatograffi lliwiau, creu lamp lafa a chromatograffi Skittles / m&m’s.
Yn ogystal, cynhaliwyd yr Her STEM i Bawb ar gyfer yr Amgueddfa Lechi, yn Llanberis a oedd ar gyfer y bobl ifanc a’u teuluoedd. Llawer o hwyl yn dysgu, creu a datblygu sgiliau bob dydd.
Sesiynau Hyfforddiant mewn swydd
Mae Awen yn cynnal sawl sesiwn Hyfforddiant Mewn Swydd i ysgolion yn ystod y flwyddyn ar draws Cymru. Bydd y sesiynau hyn yn cyflwyno sut mae’n bosibl trosglwyddo’r arbrofion o’r Cwrciwlwm presennol i Cwricwlwm i Gymru a fydd yn weithredol o fis Medi 2022. Byddant yn sesiynau ymarferol, hwyliog ac addysgol a fydd yn rhoi’r cyfle i’r athro / athrawes fod yn sefyllfa’r dysgwr gan gynllunio a chydweithio â staff. Gellir teilwra’r sesiynau hyfforddiant i anghenion yr ysgol.
Nifer o syniadau ymarferol a hawdd i’w hystyried ar gyfer gwella arferion arbed ynni, ailgylchu a bod yn fwy ystyriol bob dydd, a sut i leihau ein hôl troed carbon. Esboniad buddiol hefyd o pam rydyn ni’n gwneud y pethau hyn.
Myfyrwraig AddysgPrifysgol Bangor
Diolch yn fawr am dy gymorth. Mae’r darlithoedd Gwyddoniaeth yma wedi bod yn fuddiol iawn
Mair EvansYsgol Dewi Sant, Sir Ddinbych
Cwrs cynhwysfawr a hwyliog sydd wedi arfogi staff yr ysgol gyda gwybodaeth cyfoes o'r Cwricwlwm newydd ynghyd â syniadau cyffrous er mwyn ysgogi'r disgyblion i fod yn unigolion hyderus, mentrus a chwilfrydig.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.