Nid oes modd ad-dalu’r ffî.
Cysylltwch â sbarduno@gmail.com neu 01248 489 004 os ydych angen rhagor o wybodaeth.
• Parchu hawliau cyfranogwyr eraill a pheidio ag ymddwyn mewn modd ymosodol nac aflonyddol a ystyrir yn sarhaus gan eraill.
• Parchu eiddo cyfranogwyr eraill, deunyddiau ac offer, gan gynnwys eiddo'r lleoliad.
• Disgwylir i gyfranogwyr ddangos parch a chwrteisi at aelodau staff Sbarduno drwy’r adeg.
• Dylai cyfranogwyr hysbysu aelod o staff os ydynt yn ymwybodol o unrhyw broblem a all amharu ar rediad y sesiynau e.e., bwlio, damweiniau, difrod i offer ayb.
• Disgwylir bod pob ffôn symudol wedi’i droi ffwrdd yn ystod y sesiynau.
• Peidiwch â dod â ffrindiau i’r sesiynau, na chwaith gofyn iddynt ddisgwyl amdanoch chi tu allan.
Noder, bydd unrhyw ymddygiad sy’n cael ei weld yn aflonyddol gan gyfranogwr, neu’n berygl iddi / iddo’i hun neu i weddill y grŵp yn torri amodau’r cytundeb. Gofynnwyn i chi drafod y rheolau hyn gyda’ch plentyn cyn iddi / iddo fynychu’r Academi. Os bydd y cyfranogwr yn parhau i ymddwyn mewn modd annerbyniol, bydd y cytundeb yn cael ei derfynu.
Mae pob aelod o staff yn athrawon cymhwysiedig ac wedi cofrestru â’r Awdurdod Addysg Leol. Mae hyn yn cadarnhau bod gan pob aelod o staff DBS cyfredol llawn a’u bod â’r cofrestriadau amddiffyniadau mwyaf diweddar. Yn ystod y sesiynau hyn, byddant yn glynu i’r protocol maent yn ei ddilyn yn eu lleoliadau gwaith arferol.
Mae Sbarduno yn cadw copïau o DBS pob tiwtor ar y system.
Yn cynnwys:
Cyfrifiannell Gwyddonol
Onglydd
Cwmpawd
Pensil
Beiro
Pren Mesur
Rhwbiwr
• Os nad yw tiwtor arferol eich plentynn ar gael am unrhyw reswn ar gyfer unrhyw un o’r seisynau, yna trefnir i diwtor arall gymryd y sesiwn, pe byddai’n bosibl.
• Noder, fe wnawn ein gorau i gynnal yr holl sesiynau yn y lleoliad. Ond, os fydd unrhyw newidiadau i ganllawiau’r Llywodraeth yn ystod y cyfnod hwn oherwydd Covid-19, bydd sesiynau rhithiol ar-lein yn cael eu cynnig i chi. Diogelwch yw ein blaenoriaeth.
• Os yw sesiwn rhithiol ar-lein yn cael ei ohirio, rhoddir ad-daliad llawn ar gyfer y sesiwn hwnnw. Pe byddai cyfranogwyr eisiau gohirio, neu eu bod yn methu mynychu, dyma beth fydd y costau:
48 awr hyd at 1 wythnos cyn y sesiwn = 75% o gostau’r sesiwn
Llai na 48 awr cyn y sesiwn (neu beidio troi fyny) = 100% o’r costau
Gallwch weld Hysbysiad Preifatrwydd Sbarduno er mwyn gweld sut y defnyddir eich gwybodaeth, pwy sy’n cael mynediad iddo, y rheswm cyfreithiol dros gadw’r wybodaeth a hefyd eich hawliau mewn perthnasedd â’r wybodaeth hwn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth am gyrsiau eraill a digwyddiadau sydd gan Sbarduno i’w cynnig, gallwch danysgrifio i’n rhestr postio @sbarduno.com neu drwy ddilyn @sbarduno ar y cyfryngau cymdeithasol.
• Enw bedydd a chyfenw rhiant / gwarcheidwad
• Enw bedydd a chyfenw cyfranogwr
• Cyfeiriad (au)
• Cyfeiriad (au) e bost
• Rhif (au) cyswllt ffôn
• Rhif (au) ffôn argyfwng
• Enw a chyfeiriad Meddyg
• Unrhyw gyflyrau meddygol
• Haen ac iaith arholiad
• Gradd disgwylieidig (opsiynol)
• Unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen (opsiynol)
• Ysgol a fynychir (opsiynol)
• Gwybodaeth am agweddau o’r gwaith maent yn ei gael yn anodd (opsiynol)
Rydym yn ddibynnol ar y seiliau cyfreithiol canlynol er mwyn prosesu’r wybodaeth gyffredinol:
• Lle mae gennym eich caniatâd
• Lle mae prosesu eich data personol o ddiddordeb i’r cyhoedd
• Lle mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol i’n diddordebau cyfreithlon neu hynny o drydedd parti a sydd ddim wedi’u hanwybyddu gan eich hawliau preifatrwydd.
Bydd Awen Ashworth, Perchennog Sbarduno yn cadw’r manylion hyn, a bydd ond yn rhannu’r wybodaeth angenrheidiol gyda’r twitor, fel bod modd i’ch plentyn gyrraedd ei lawn potensial.
• Mae gennych hawl mynediad at y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi / eich plentyn.
• Mae gennych yr hawl i gywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi / eich plentyn yr ydych yn meddwl sy’n anghywir neu’n anghyflawn.
• Mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein defnydd o’ch manylion personol ar gyfer pwrpas marchnata uniongyrchol. Os nad ydych yn dymuno derbyn rhagor o ohebiaeth gennym ni, a fyddech gystal â chysylltu â ni, os gwelwch yn dda? Byddwn yn dod â’r ohebiaeth i ben, ond yn parhau i gadw cofnod ohonoch a’ch dymuniad i beidio â chlywed gennym ni.
• Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth. Rhaid eich hysbysu pe byddem yn gwneud hyn, ni fydd gennym unrhyw gofnod o’ch cais i beidio â derbyn unrhyw ohebiaeth gennym ni. Mae’n bosibl y byddwch yn dechrau derbyn gohebiaeth gennym ni yn y dyfodol, pe bydddem yn derbyn eich manylion gan ffynhonnell wahanol.
• Lle mae prosesu eich manylion personol yn seiliedig ar eich caniatâd, mae gennych yr hawl i’w dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Os gwelwch yn dda a fyddech gystal â chysylltu â ni pe byddech yn dymuno gwneud hyn.
Manylion cyswllt: awen@sbarduno.com