Trosolwg

Sesiynau Academi

Mae’r sesiynau hyn wedi’u harwain gan athrawon brwdfrydig a phrofiadol, a hynny yn ystod tymor yr ysgol ac ar ôl oriau ysgol. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder y disgyblion o fewn Mathemateg a phynciau eraill.

Sut i gofrestru...

Cyn cychwyn cwrs academi, gofynnir i bob rhiant/gwarchodwr lenwi a darllen y dogfennau isod.

Mathemateg Cynradd

Manylion:

Mae’r sesiynau ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 sydd wedi’u darparu gan athrawon profiadol. Mae pob sesiwn yn cynnwys agweddau o Fathemateg pen, Mathemateg weithdrefnol, datrys problemau a gêm rhifedd. Mae pob sesiwn yn awr o hyd, ac ar gael i grwpiau bychain a thorfol.

Cost: £20 y sesiwn
Lleoliad: Clwb Pêl-droed Bethel, LL55 3AA
Dyddiadau: Nos Lun yn ystod tymor yr ysgol

Mathemateg Uwchradd

Cynhelir sesiynau Academi ar gyfer Blwyddyn 7-9, er mwyn magu hyder y disgyblion.

Mae’r sesiynau Academi ar gyfer Blwyddyn 10 ac 11 eto wedi’u darparu gan dîm o athrawon profiadol ac yn cynnwys yr agweddau canlynol: rhif; algebra; siâp a gofod; data a thrigonometreg.

Manylion:

Cost: £20 y sesiwn
Lleoliad: Clwb Pêl-droed Bethel, LL55 3AA
Dyddiadau: Nos Fercher yn ystod tymor yr ysgol

Gwyddoniaeth

Sesiynau Academi Gwyddoniaeth wedi’u darparu a’u paratoi gan athrawon profiadol a brwdfrydig i gynorthwyo pobl ifanc ym Mlwyddyn 10 i 13. Cyfle i adolygu a magu hyder.

Manylion:

Lleoliad: M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Menai, Gaerwen, Ynys Môn. LL60 6AR

Adborth Academi

Rhiant AcademiSesiwn Academi
Gair i ddiolch yn fawr i Sbarduno am y sesiynau adolygu – mae nhw wedi bod yn ardderchog. Mae cael y pecyn atebion yn ddefnyddiol iawn i mi fel rhiant i drio helpu fy mhlentyn ar ôl y sesiwn – dwi’n ddiolchgar iawn.
Rhiant Academi CynraddSesiwn Academi
Waw! Oedd y plant di mwynhau y sesiwn neithiwr! Oedden nhw'n 'buzzing' yn dod allan! Gwych. Oedden nhw'n meddwl bod Eifion yn wych!
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Rydw i wedi cael gwell dealltwriaeth ac adborth ar sut i gryfhau fy atebion. Rydw i hefyd yn teimlo’n fwy hyderus i sefyll yr arholiad.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Llai o blant na mewn ysgol, deall y gwaith yn dda, athro yn gwneud gwaith yn hwyl.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Gema tabla, Y bunk beds ac adio a thynnu.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
Wedi gwella lot yn y tablau ac agweddau eraill a mwy hyderus.
Disgybl AcademiSesiwn Mathemateg
100% yn teimlo’n fwy hyderus am Fathemateg yn y dosbarth.
Rhiant Academi CynraddSesiwn Academi
Waw! Oedd y plant di mwynhau y sesiwn neithiwr! Oedden nhw'n 'buzzing' yn dod allan! Gwych. Oedden nhw'n meddwl bod Eifion yn wych!

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan.